Rhif y ddeiseb: P-06-1305

Teitl y ddeiseb:  Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o’r Senedd erbyn 2026

Geiriad y ddeiseb: Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cynnig estyn y 60 Aelod o’r Senedd ar hyn o bryd i 96 o Aelodau erbyn 2026. Mae hyn yn wastraff arian cyhoeddus pan fo modd ei ddefnyddio’n well ar wasanaethau cyhoeddus, megis cyllid gwell i gynghorau lleol. Gyda’r argyfwng costau byw parhaus, bydd hyn yn arwain at wastraffu mwy o arian cyhoeddus gyda’r gost o gyflogi 36 Aelod a’u staff cymorth. Rwy’n meddwl y byddai pleidlais ar hyn gan bobl Cymru yn syniad gwell o ddemocratiaeth ar waith.

Gyda’r costau byw yn effeithio ar bobl ar draws cymdeithas, rwyf o’r farn bod y cynnig ynghylch 36 Aelod ychwanegol yn wrthun. Dylai arian cyhoeddus gael ei wario ar ofal, cynghorau, cefnogi economïau lleol a helpu pobl ar draws Cymru gyfan.

Mae’r bobl yn haeddu llais ar y mater, ac rwy’n gobeithio bod digon o bobl yn llofnodi i ddwyn digon o bwysau i’r pleidiau ailystyried eu cynlluniau a meddwl am bobl Cymru.

 

 


1.        Y cefndir

Ers 2004, mae cyfres o adroddiadau wedi argymell y dylai maint presennol y Senedd, sef 60 Aelod, gael ei gynyddu. Roddodd Deddf Cymru 2017 bwerau i'r Senedd mewn perthynas â'i maint a'i threfniadau etholiadol. Bydd angen i uwchfwyafrif (40 o’r 60 Aelod o’r Senedd) bleidleisio dros unrhyw Fil a gyflwynir ar ddiwygio’r Senedd iddo basio. Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru gynnal pleidlais i gael barn pobl Cymru ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Nid yw hwn yn fecanwaith ar gyfer cynnal pleidlais uniongyrchol na refferendwm uniongyrchol ar gynnig penodol.

1.1.            Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol

Ym mis Chwefror 2017, cafodd Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ei benodi gan y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried a oes angen mwy o aelodau ar y Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau craffu a deddfwriaethol.

Argymhellodd y Panel Arbenigol y dylai maint y Cynulliad gynyddu i “80 Aelod fan lleiaf, ac yn ddelfrydol i 90 Aelod”. Canfu fod deddfwrfa â 60 Aelod yn fach o’i chymharu â’r rhan fwyaf o’r deddfwrfeydd tebyg, a bod diffyg capasiti yn cyfyngu’n ddifrifol ar amser yr Aelodau.

1.2.          Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Yn sgil canfyddiadau'r Panel Arbenigol, cafodd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ei sefydlu i ystyried opsiynau ar gyfer diwygio’r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei gasgliadau ym mis Medi 2020. Argymhellodd y dylai maint y Senedd gynyddu i fod â rhwng 80 a 90 Aelod, a hynny o’r etholiad yn 2026 ymlaen. Roedd hefyd yn argymell i system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy gael ei defnyddio. Ni chynigiodd y Blaid Geidwadol Aelod ar gyfer y Pwyllgor. Hefyd, cyn i’r Pwyllgor allu gorffen ei waith, amharwyd arno gan ymddiswyddiad David Rowlands, Aelod Plaid Brexit, a chan bandemig Covid-19.

1.3.          y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd

Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 a gofynnwyd iddo wneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi i Fil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd.

Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig y dylai’r Senedd gynyddu o ran maint i 96 Aelod. Argymhellodd gyflwyno system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig, a chreu 16 etholaeth newydd drwy baru etholaethau presennol Senedd y DU. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Senedd newydd gynnwys cwotâu rhywedd, mesurau gwell ar gyfer casglu data am amrywiaeth ymgeiswyr a gweithdrefnau ar gyfer rhannu swyddi.

Ymddiswyddodd cynrychiolydd y Ceidwadwyr o’r Pwyllgor cyn i adroddiad y Pwyllgor gael ei gytuno. Cafodd rhai o’r prif argymhellion eu derbyn gan fwyafrif ar y Pwyllgor, ond nid gan bob Aelod.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddatganiad ar y cyd ar 10 Mai 2022, yn dadlau y dylai’r Senedd gael 96 Aelod ac y dylid defnyddio system gyfrannol rhestr gaeedig i’w hethol.

Yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon, dywedodd y Prif Weinidog:

“the Senedd is currently the smallest of all the devolved legislatures in the UK and has remained the same size since the establishment of the National Assembly in 1999, despite assuming extra law-making and tax-raising powers. In addition, when the UK left the EU, Wales lost its MEPs, and there are proposals for Wales to see a cut in the number of MPs from 40 to 32 under current boundary review plans.

It is essential that the Senedd has appropriate capacity to carry out its role in holding the government to account.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd maes o law, i’r Senedd ei drafod a chraffu arno.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Trafododd y Senedd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar 8 Mehefin 2022. Dywedodd Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor:

“ni cheir un pecyn perffaith digymysg o ddiwygio etholiadol a fydd yn bodloni pawb. [...] amcan [...] ein pwyllgor oedd dod o hyd i argymhellion y mae'n rhaid iddynt hefyd ennill cefnogaeth ar draws y Senedd gyfan [...] nid ceisio sicrhau rhyw weledigaeth o berffeithrwydd, a thrwy hynny aberthu ymarferoldeb a gallu i'w gyflawni erbyn 2026.”

Dywedodd Mr Irranca-Davies fod angen mwy o gapasiti ar y Senedd i gyflawni’r cyfrifoldebau ychwanegol a ysgwyddwyd ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu ym 1999. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau deddfu sylfaenol, pwerau i fenthyca ac amrywio trethi, gwaith ychwanegol a grëwyd wrth i bwerau ddychwelyd o’r UE yn sgil Brexit, mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd oherwydd pandemig Covid-19, a’r “potensial hwnnw, nad yw'n afrealistig, o gyfrifoldebau ychwanegol yn y dyfodol”.

Gwnaeth Darren Millar, llefarydd yr Wrthblaid ar y cyfansoddiad, feirniadu’r cynigion, gan ddadlau nad dyma’r amser iawn i gynyddu maint y Senedd. Dadleuodd Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, fod angen Senedd fwy “i graffu ar Lywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon”.

Pleidleisiodd y Senedd o blaid y cynnig i dderbyn yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, gyda 40 Aelod yn pleidleisio o blaid a 14 yn pleidleisio yn erbyn. Yn y modd hwn, bodlonwyd y gofynion i sicrhau ‘uwchfwyafrif’ o ddwy ran o dair o’r Senedd i ganiatáu i Fil ar ddiwygio’r Senedd gael ei gyflwyno.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.